Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-22

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (1)

Ffarwél Ffriddoedd

Drws y fflat, Ffriddoedd, BangorMae'n digwydd ym mhob eisteddfod, erbyn dechrau teimlo'n gyfforddus yn y fflat a chael y pethau oedd eu hangen o'n cwmpas a deall sut oedd y ffyrdd yn gweithio a phwy oedd pwy ar y campws, mae'n amser inni fynd adref. Roedd tyrfaoedd o bob math wedi bod yn mynd ac yn dod o'r neuaddau - ond fe dduhunais y bore 'ma i'r dorf fwyaf esoterig yn ochneidio ei ffordd drwy ei hymarferiadau, sef rhywbeth oedd yn ymddangos fel tri chant o selogion Aikido. Dwi ddim yn gwybod dim amdano, ond o ddilyn y ddolen caiff dyn fwy nad digon o wybodaeth amdano. Y cyfan y galla i ei ddweud yw fod y rhai sy'n arfer Aikido yn codi'n fore ac yn gwneud lot o sŵ. Ond fe ddylen ni fod yn ddiolchgar iddyn nhw achos roedd angen inni godi'n fore i orffen y gwaith o glirio'r gegin ac i symud popeth o'r ystafelloedd. Roedd y Brifysgol yn bendant iawn ei bod yn rhaid inni adael erbyn 10.00am y bore - roeddem ni allan cyn 10.30am!

Yn barod i adael y fflat, Ffriddoedd, BangorWrth inni symud ein pethau o'r fflat i'r ceir roeddwn yn sylwi fod un o'n plith â llyfr dan ei ysgwydd drwy'r amser - doedd dim ots ble'r oedd e'n mynd na beth roedd e'n ei wneud, doedd dim yn mynd i wahanu DML oddi wrth y 'Cyfansoddiadau'. Roedd yn ddigon i godi cywilydd ar bawb arall oherwydd eu diffyg ymrwymiad go iawn i ddiwylliant. Ond pa ots bellach, roedd y gwyliau ar ddod i ben a ninnau ar ein ffordd yn ôl ogledd Ceredigion.

Tagiau Technorati: | | .