Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-25

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 2 (11)

Adre'n ôl o'r diwedd

AberystwythWedi Wynford Vaughan Thomas dim ond un peth oedd ar ôl i'w wneud sef dod adref. Roedd antur Aberhosan Bontdolgadfan a Phenffordd-las wedi bod yn ddiwedd gwych i'r wythnos o wyliau diwylliedig roeddwn i wedi'i gael ym Mangor, Môn, Eryri a Maldwyn. Bellach roeddwn i'n barod i ddod 'nôl i'r ddaear. Ond ddim am yn hir iawn. Fore Mawrth bydd yn rhaid imi adael Aberystwyth unwaith eto, am Abertawe y tro hwn a chynhadledd ar hanes ffotograffiaeth sy'n cael ei chynnal yn y Brifysgol yno.

Tagiau Technorati: | .