Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-26

Bywyd yn mynd yn ei flaen

Er imi fod yn adrodd hanes yr wythnos yn yr eisteddfod dwi wedi bod yn byw fy mywyd. Mae gen i gymaint i'w adrodd. Ar ôl yr eisteddfod fe fues mewn cynhadledd yn Abertawe am bedwar diwrnod ac yna bues i ar wythnos o wyliau o'r gwaith gan deithio i fan hyn a fan'co. Un diwrnod bues i yn ardal Penbryn yn ne Ceredigion, wedyn yn ardal Nant-y-moch yn yr un sir; ac wedyn yn Sir Benfro a'r ardal ar y ffin gyda Sir Gaerfyrddin. Mae gen i gymaint i'w ddweud a'i ddangos, ond mae'r cyfan yn cymryd amser.

Yr wythnos hon fe es i 'nôl i'r gwaith - roedd hynny'n dipyn o sioc ynddo'i hun ar ôl bron i dair wythnos i ffwrdd (gan gynnwys wythnos o waith i ffwrdd). Ond pan es i 'nôl roedd hi'n sioc ac yn bleser darganfod anrheg gan y bos o'i wyliau yntau sef llun gwych o Siop Spar yn Corcaigh, Iwerddon - diolch yn fawr GJ! Mae'n amlwg fod y dwymyn Spar yn un sy'n lledu. Os ych chi am brofi ychydig o wefr yr ysmotiwr Spar yn ewch i'r casgliad Spar Spotting ar flickr.com

Siop Spar, Corcaigh, Iwerddon

Tagiau Technorati: | .