Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-22

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (13)

Digon o ddiwylliant i bara tan y Nadolig

Bws i Fethel, ger LlanrugMae 'na rai sy'n gweld yr eisteddfod fel math o gyfle i ail-lenwi'r batris diwylliannol, wel wedi beth dwi a RO wedi'i wneud yr wythons yma fe ddylai ein batris diwylliannol fod yn gorlifo - neu o leia yn cynnwys digon o egni i'n cadw ni yn iawn tan y Nadolig. 'Nôl â ni trwy Waunfawr a Llanrug a Bethel am Fangor. Roeddwn i wedi fy nghyffroi o wel bws yn mynd i Fetherl. Pan fydda i'n gweld bws fel 'na dwi'n dychmygu fy mod yn byw yn nhiroedd y meddiant ym Mhalesteina. Roeddwn i'n arfer gwneud yr un peth pan yn ateb y ffôn ym Mynachlog-ddu lle enw'r gyfnewidfa oedd 'Hebron'.

Roedd hi'n noson olaf yn Ffriddoedd a fe wnes i bryd o fwyd gwahanol i'r hyn yr oeddwn wedi'i fwriadu. Roedd y cawl moron o Fflandrys wedi bod mor boblogaidd fel bod galw am ei wneud eto. I ddechrau cafwyd rhyw fath o antipasti ond gyda'r holl fwydydd gwahanol addas oedd ar ôl yn y fflat, gan gynnwys tofu wedi'i fygu (diolch IwJ!). Balsus iawn. Caws a bisgedi i ddilyn. Gwely wedyn. Hedfanodd yr amser.

Yr holl luniau o wythfed diwrnod yr Eisteddfod.

Tagiau Technorati: | | .