Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 1 (7)

O unigedd i ganol y torfeydd

Betws-y-coedRoedd yr amser yn dweud ei bod hi'n bryd inni droi tuag at Ffriddoedd. Felly dyma fynd yn ôl lawr y dyffryn a chyrraedd Bets-y-coed a bwrlwm twristiaeth. Roeddem yn mynd am Fetws-y-coed am ein bod am alw heibio i Nant Peris a rhieni DJP cyn mynd yn ôl i Fangor am swper. Wrth fynd heibio i Gapel Curig fe welson ni Eglwys S. Iwlita - mae DJP gyda'i lygaid craff yn dweud iddo weld yr Esgob Cledan Mears yn mynd i mewn. Roeddwn ni wedi hen fynd heibio cyn imi gael fy nghamera yn barod - felly does dim llun i brofi na gwrthbrofi'r achos.

Bwlch LlanberisWrth fynd trwy fwlch Llanberis roedd y niwl yn disgyn a'r glaw yn disgyn. Nid oedd hyn yn argoeli'n dda ar gyfer yr Eisteddfod. Dyma ddod i stop yn Nant Peris a mynd gyda DJP i'r tŷ. Doedd neb yno ar y pryd, felly dyma yntau yn gwneud "panad" inni. Cyn bo hir roedd ei dad a'i fam yn eu holau a chawsom gyfle am sgwrs, cyn mynd yn ein blaenau unwaith eto am Fangor.

Ym Mangor roeddem yn disgwyl am IwJ i gyrraedd, ond roedd yntau wedi cael ei ddal gan y peth hyn a'r peth arall, felly dyma fynd ati i swpera. Wrth inni wneud mae'n cyrraedd. Roedd y swper yn dilyn y fwydlen osodedig - Salad awbergeniaid, Cawl minestrone, ac yna caws a bisgedi i orffen.

Yr holl luniau o'r ail ddiwrnod.