Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Pwdin reis iberaidd

Holodd rhywun beth oedd y pwdin reis iberaidd roeddwn i wedi'i roi ar y fwydlen ar gyfer yr eisteddfo. Wel pwdin reis wedi'i felysu gyda mel a'i flasu gydag oren. Dyma'r rysait roeddwn i wedi bwriadu ei dilyn. Fel mae'n digwydd yn y diwedd ni wnes i goginio'r pwdin.

Pwdin reis iberaidd
Cynhwysion
50g o reis ar gyfer pwdinau
600ml o laeth
45ml o fêl clir (neu fwy neu lai)
croen hanner oren wedi'i ratio'n fân
150ml hufen dwbwl
15ml cnau pistasio

Mae hyn yn gwneud digon ar gyfer 4

1. Cymysgwch y reis gyda'r llaeth, mêl a chroen yr oren mewn sosban a dod â'r cyfan i ferw gan droi'r gwres lawr yn isel iawn, rhoi'r caead ar y sosban a gadael i'r cyfan fudferwi yn dawel iawn am ryw awr a hanner. Rhaid troi'r gymysgedd yn gyson.
2. Tynnwch y caead oddi ar y sosban gan barhau i goginio a throi'r gymysgedd am ryw 15-20 munud, hyd nes bod y reis yn hufennog.
3. Arllwyswch yr hufen dwbwl i mewn i'r gymysgedd a'i fudferwi am ryw 5-8 munudd arall. Yna rhowch y reis mewn powleni unigol gyda chnau pistasio wedi'i taenellu ar y wyneb. Fe allech adael i'r cyfan oeri a'i weini felly.