Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 1 (6)

Dringo i fyny


Wedi cinio dyma alw heibio i Lanrwst ar gyfer mynd i siop KwikSave i brynu rhai pethau ar gyfer y nos. Wedyn dyma droi yn ein holau i fynd i Drefriw a dringo i lan dros y dyffryn. Roedd DJP yn adnabod yr ardal gan fod ei fam yn enedigiol o Drefriw. Dyma aros yn y fynwent i ddechrau cyn parhau â'n taith i fyny i Gwm Cowlyd. Roedd y dringo yr oedd yn rhaid i'w wneud i gyrraedd yno yn rhyfeddol. Er bod llawr y dyffryn yn eang mae'n codi'n serth i fyny a'r ffyrdd yn Swisdiraidd o droellog. Ond er ei bod yn wyliau'r haf, a'r diwrnod wedi agor mas doedd neb ond ninnau ar y darn yma o dir.

Lan ar y topiau yma yn rhywle y cyhaliodd yr enowg Gwilym Cowlyd ei arwest. Fe'i digrifir gan y Bywgraffiadur Cymreig fel "bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, llyfrbryf, a gŵr hynod". Credai fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn fudiad ffug a bod yr Orsedd yn rhy Seisnigaidd o dipyn, ac felly fe sefyddlodd ei orsedd a'i eisteddfod ei hun. Fe'u cynhaliwyd i fyny yn yr unigeddau fan hyn oherwydd yma yr oedd cartref Taliesin Ben Beirdd. Yng nghasgliad ffotograffau John Thomas yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir llun trawidol ohono gyda'i griw o feirdd.

Wedi cyrraedd Cwm Cowlyd roedd taith bellach i weld y llyn ei hun, ond fe wnaethon ni fodloni ar weld y cwm y tro hwn. Dwi'n siwr y bydd RO am fynd 'nôl i orffen y job yn iawn.

Rhagor o luniau o'r ymweliad â Threfriw a Chwm Cowlyd.