Cinio yn Nhal-y-bont
Y tro diwethaf imi ddod ar hyd Dyffryn Conwy oedd wrth fynd i a dod o briodas IapD a ND ac fe alwon ni heibio i bentref Llanbedr-y-cennin, lle roedd cartref ND. Bryd hynny sylwodd IapD fod y tafarn yn Nhal-y-bont, wrth y tro i'r pentref, yn lle iawn i gael bwyd. Felly wrth inni fynd heibio dyma benderfynu galw yno. Saesneg oedd iaith y gwasanaeth, ond roedd rhyw dri yn bwyta yno'n barod ac yn siarad Cymraeg rhywiog y gogledd orllewin.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.