Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 1 (4)

Y Ro Wen

Cofeb Huw T. Edwards, Y Ro Wen
Wrth deithio lawr Dyffryn Conwy dyma weld arwydd yn cyfeirio at y Ro Wen. Roedd ein gyrrwyr RO am ddilyn y trywydd hwnnw. Y cyfan a wyddwn am y lle oedd fod yr Arglwydd Wyn Roberts yn byw yno; wrth gyrraedd y pentref a gweld y gofeb i Huw T. Edwards fe sylwodd y tri ohonom fod rheswm llawer agenach dros ystyried ymweliad â'r Ro Wen yn un hanfodol ar gyfer bob Cymro neu Gymraes gwerth eu halen. O alw yn y pentref dyma aros yn ystafeloedd te Pen-y-bont - derbyn gwasanaeth yn Saesneg yno ond gyda lemonêd cartref blasus iawn.