Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 1 (3)

Ymlaen i Ddyffryn Conwy

Portread o RO yn rhoi petrol yn y car ym MangorMae'n amhosib gyrru ar hyd glannau'r gogledd heb ddefnyddio'r A55. Dyna ddysgon ni fore Sul. Roeddem wedi gobeithio troi ein cefnau'n llwyr ar y ffordd ddeuol ac ymlwybro trwy drefi a phentrefi'r ffordd o Fangor hyd at Gonwy. Ond mynd ar y ffordd fawr bu'n rhaid inni gan droi i ffwrdd i fynd trwy'r trefi. Roedd hi'n niwlog, ond eto i gyd fe lwyddon ni i gael cipolwg ar Ynys Seiriol a Phen-y-Gogarth wrth deithio. Aethon ni drwy Lanfairfechan a Phenmaenmawr cyn mynd drwy dwneli Penmaen-bach a throi oddi ar yr A55 am Gonwy.

ConwyNid yn annisgwyl yr oedd tref gaerog Conwy dan ei sang gyda'r strydoedd culion nad oedden nhw wedi disgwyl gweld mwy nag ambell i gert a choets fawr yn gorfod ymdopi â llif o draffig twristaidd. Doedd dim pwynt aros yng Nghonwy - buasai wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i le i barci heb sôn am le i gael cinio. Felly fe aethon ni am ein blaenau i Ddyffryn Conwy. Roeddwn i wedi bod ar hyd y dyffryn ddwy neu deirgwaith yn y blynyddoedd diwethaf, felly fe wnes i awgrymu ein bod yn mynd ar hyd yr ochr "arall" - hynny yw ochr Trefriw, Dolgarrog a'r Gyffin, yn hytrach na Glan Conwy, Tal-y-cafn.