Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-20

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (7)

Teimlo'n fach

RO ar lan Llyn Gwynant

Does dim rhaid imi ddweud mewn gwirionedd fod teithio yn Eryri yn gwneud i rywun deimlo yn arbennig o fach yn ymyl y mynyddoedd a holl raddfa'r dirwedd. Does dim byd yn agos atoch yn y lle ar yr olwg gyntaf. Mae'n rhaid bod y rhai sy'n adnabod y lle yn dda fel tirgolion neu ymwelwyr yn dod i weld yr ochr honno i'r lle, ond i mi mae fel petai'n llefaru â llais tebyg i un Ozymandias yn y soned gan Shelley, ond ei bod â rheswm i fod yn drahaus, yn wahanol iawn i Ozymandias druan. Ond efallai fod hynny'n orddweud gan nad oes elfen fygythiol yma, ond mae unrhyw hunan-bwysigrwydd yn gorfod cael ei anghofio amdano. Dwi'n credu fod y llun hwn o RO ar lan Llyn Gwynant yn dal yr ysbryd o 'barch' a 'gostyngeiddrwydd' mae dyn yn teimlo yma; yn anffodus nid yw hynny'n wir am bawb sy'n dod yma ac mae olion dyn i'w gweld hwnt ac yma a hynny mewn ffordd andwyol.

Rhagor o luniau o Lyn Gwynant.

Tagiau Technorati: | | .