Gweld yr Wyddfa
Wedi hoe wrth lan Llyn Gwynant rRoedd tipyn o daith ar ôl eto i'w gwneud. Er ein bod wedi gweld tipyn yn barod roedd 'na fwy yn ein disgwyl. Wedi mynd heibio Llyn Dinas a Beddgelert dyma troi tuag at Ryd-ddu a gweld yr Wyddfa unwaith eto, ond o gyfeiriad cwbwl wahanol y tro hwn. Ar ôl ceisio'i hadnabod o Dinorwig uwchben Llanberis, o'r syllfan ger Pen-y-gwryd, nawr roedd yn gwbwl amlwg. Roedd y copa yn dal i wisgo capan o niwl, ond roedd yn edrych yn drawiadol iawn. Dwi'n gobeithio nad yw RO yn teimlo fy mod wedi bod yn stwbwrn wrth ddweud nad oeddwn am fynd i'r copa yn y trên bach. Ond roedd meddwl am gael fy stwffio i fewn i goets yn llawn ymwelwyr a hithau'n dwym a phlant yn sgrechian ac yn chwydu o'm cwmpas yn rhywbeth nad oeddwn am ei wneud. Mae gweld yr Wyddfa o fan hyn yn lot mwy pleserus.
Tagiau Technorati: Yr Wyddfa | Snowdon | Gwyliau.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.