Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-20

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (6)

'Unigedd' Eryri

Ceir ym Mhen-y-gwrydYn ystod misoedd yr haf mae'n rhaid rhoi unrhyw syniad fod Eryri yn medru cynnig 'unigedd' on hold. Wrth i RO a finnau ddringo yn y car trwy Nant Peris am Fwlch Llanberis roedd ceir wedi'u parcio ym mhobman. Nid yw'n rhyfedd fod Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn atgoffa ymwelwyr drwy'r amser ei bod yn bosib dal bysus i'r prif atyniadau. Dwi ddim yn gwybod faint sy'n gwrando! Dim llawer yn ôl y dystiolaeth a welsom ni heddiw.

RO yn esbonio beth yw beth yn NantgwynantO Fwlch Llanberis dyma fynd lawr Nantgwynant a dod o hyd i le i barcio mewn syllfan o dan yr Wyddfa ac yn edrych dros Llyn Gwynant. Fel arfer roeddwn i wedi dod â chymaint o fapiau â phosib gyda mi er mwyn ateb yr holl gwestiynau yr oeddwn yn gwybod y buasai RO yn ei ofyn am y mynyddoedd a'r tirlun. Ond fel mae'n digwydd nid gofyn cwestiynau fu RO yma ond yn eu hateb. Gadewais i yntau yn edrych ar y mynyddoedd gyda'r mapiau yn ceisio deall pa gopa oedd pa gopa - peth anodd iawn i'w wneud heb fod arnyn nhw - i fynd i brynu hufen iâ o fan oedd wedi'i pharcio yno. Wrth gychwyn y ffordd yn ôl roeddwn i'n ei weld wrthi'n siarad, neu'n hytrach yn esbonio rhywbeth i gyfaill o un o'n cymunedau ethnig. Wedi cael gwybod wedyn roedd y dyn a'i deulu wedi dod o Fanceinion gan ddilyn eu trwynau, a dyma nhw'n troi at y dyn cyntaf iddyn nhw weld gyda map a gofyn ble ddylen nhw fynd nesaf. Dwi'n siŵr eu bod wedi cael gwell ateb na fuasai'r ganolfan groeso orau wedi medru ei roi iddyn nhw.

Tagiau Technorati: | | .