Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (3)

Dinorwig

DinorwigEr yr holl sôn sydd am y lle roedd hi'n ymddangos o'r arwydd fod Dinorwig am osgoi unrhyw sylw. Ond mae hynny'n amhosib o gofio'i leoliad. Wrth sefyll ger Maes Eilian yn Ninorwig roedd hi'n bosib edrych i lawr ar Lanberis a Llyn Padarn ac i fyny am yr Wyddfa. Mae'n siŵr taw'r cwts bysus yn Ninorwig sydd â'r olygfa orau yn y byd i gyd ac fe allai Arriva ei werthu i fewnfudwyr am fortiwn.

Cysgodfa fysus, Dinorwig
Rhagor o luniau o ardal Dinorwig.

Tagiau Technorati:.