Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (2)

Deiniolen a thu hwnt

DeiniolenRydym ni'n gyfarwydd iawn â'r cysyniad o selebs sy'n bobol, ond mae 'na lefydd yng Nghymnru sy'n selebs hefyd. Un o'r llefydd hynny yw Deiniolen - does dim byd arbennig amdano fel pentref, heblaw ei fod yn enwog fel enw. Digwyddodd hynny'n rhannol trwy fod yn seren mewn cyfres deledu reit ddifyr. Ond pan ych chi'n cyrraedd Deiniolen rydych chi'n chwilio am ryw hynodrwydd, ond nid yw yn weladwy. Felly mae'n rhaid i'r ymwelydd fodloni ar jyst fod wedi bod yn Neiniolen.

Eglwys Crist, DeinolenEfallai ar gyrion pentref Deiniolen y mae un o'r hynodion hynny sy'n werth eu gweld. Yno saif Eglwys Crist. Mae'n siŵr ei bod hi'n fwy o faint nag eglwys gadeiriol Llanelwy, a dyw hi ddim llawer llai nag eglwys gadieriol (ac nid cadeirlan!) Bangor. Un agwedd hynod arall amdani oedd ei bod yn ymddangos ei bod ar agor. Mae nifer y capeli a'r eglwysi sy wedi'u cau yn Arfon a Môn yn uchel, yn uwch efallai nag yn y de orllewin - ond canfyddiad personol yw hynny yn unig nid sylw gwyddonol. Pan fo'r adeiladau crefyddol o faint Eglwys Crist mae'n dod yn fwrn ar unrhyw gymuned Gristnogol i'w cynnal, ac mae'r gofod mor fawr fel bod y mynychwyr yn teimlo ar goll.

Tagiau Technorati: | | .