Cwm-y-glo a Llanberis
"Ai dyna fo?" oedd ymateb cyntaf RO wedi inni fynd trwy Cwm-y-glo. A'r ateb onest yr oedd yn rhaid imi ei roi i'r cwestiwn oedd, "Ie". Ni fyddai'n deg imi ddweud fod Cwm-y-glo wedi gwireddu ein disgwyliadau ac mae'n rhaid fod hynny am ein bod ni wedi creu o'r enw Cwm-y-glo a'i gysylltiad â Gwynedd Williams Books ryw dref o ddiwylliant a deallusrwydd. Wedi ymweld â'r lle dwi'n medru adrodd ei fod yn bentref cyffredin yn Arfon - nid yw'n fwy nag yn llai diwylliedig na deallusol nag unrhyw bentref arall yn yr ardal, ond does dim rhyw lawer i'w weld yno.
O fewn dim roeddem ym mhentref Llanberis yn crwydro ac yn chwilio am rywle i gael cinio. Roedd ychydig o fywyd yn y pentref gyda ymwelwyr yn crwydro'r strydoedd fel ninnau yn chwilio am le i gael cinio. Ar ôl crwydro hyd at eglwys y plwyf a Siop Spar fe fethon ni â dod o hyd i le oedd yn gwneud bwyd a bu'n rhaid inni droi 'nôl fwy i ganol y pentref a chymryd cinio mewn ystafelloedd te yno.
Roedd y rhan fwyaf o'r rhai oedd yn gweinyddu yn yr ystafelloedd te yn siarad Cymraeg ac fe gawsom wasanaeth cwbl Gymraeg. Ond roedd un o'r rhai oedd yn y gegin heb fod yn medru'r Gymraeg, ac felly roedd pawb yn siarad Saesneg gyda'i gilydd pan roedd honno o gwmpas. Mae'n rhyfedd pa mor wasaidd yr ydym ni bob amser i newid iaith. Dwi wedi bod mewn cyfarfod o ugain a mwy cyn hyn a phawb yn siarad Cymraeg ond un a'r siaradwyr Cymraeg yn teimlo taw siarad Saesneg oedd y peth 'iawn' i'w wneud - hunan-ormes o'r math gwaethaf, a finnau gyda'r mwyaf parod i wneud hynny. Dwi'n ofni fod y cadwynau yn y meddwl yn dal i fod yn dynn iawn. Gyda llaw roedd y byw yn edyrch yn fwy blasus nag yr oedd mewn gwirionedd!
Tagiau Technorati: Llanberis, Cymraeg, Cwm-y-glo, Bwyd.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.