Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (1)

Golchi dillad

Golchdy, Ffriddoedd, BangorCyn mynd allan i deithio heddiw roedd yn rhaid imi olchi fy nillad, oherwydd wedi mynd yn ôl i Aberystwyth dim ond diwrnod sy gen i cyn mynd ar daith unwaith eto - i Abertawe'r tro 'ma. Felly roedd yn rhaid imi olchi fy nillad yn y golchdy yn Ffriddoedd. Roedd hi fel bod yn fyfyriwr unwaith eto, er bod y peirannau golchi a sychu yn llawer mwy soffistigedig nag oedden nhw bum mlynedd ar hugain yn ôl. Wedi golchi'r dillad roeddwn i'n barod i fynd, ac roedd RO wedi penderfynu taw i Eryri y byddem yn troi heddiw. Felly bant â ni heb fod yn rhyw siŵr iawn ble fydden ni'n aros i ginio.

Tagiau Technorati: | | .