Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-22

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 2 (12)

Mynd am y set gyflawn

RhosgadfanOs ydych chi'n mynnu bod yn ddiwylliedig a 'gwneud' T. H. Parry-Williams ac R. Williams Parry, yna mae'n rhaid ichi fynd am y set gyflawn a 'gwneud' Kate Roberts. A dyna'n gywir a wnaeth RO a minnau. Wedi bod trwy Benygroes a gweld Ysgol Dyffryn Nantlle sy'n alma mater i gymaint o enwogion llenyddol a chyfryngol, fe droesom am Rosgadfan. Roedd y ddau ohonom wedi bod i weld y llefydd arferol felly dyma ddringo i fyny uwchlaw'r pentref.

Gwlad Te yn y grugPetai Cymru'n wlad normal a'r Gymraeg yn iaith normal byddwni'n gwerthu'r ardal hon fel 'Gwlad Te yn y grug' a buasai'r pwnterwyr yn heidio yma yn ei miloedd. Wrth yrru heibio'r rhos roeddwn i bron â bod yn medru gweld Wini Ffini Hadog yn rhedeg aton ni rhwng yr eithin yn barod i'n hudo ni i wnued petha na ddyla plant capal 'u gneud! Yn y diwedd dyma gyrraedd syllfan yn edrych draws dros dref Caernarfon i Ynys Môn, ac roedd y syllfan hon yn gofeb fyw i Kate Roberts gyda phlac yn adrodd "Bu'r olygfa hon | yn gyfrwng | i adnewyddu | ysbryd llawer | ac yn ysbrydoliaeth i | weithiau Kate Roberts | o Rosgadfan, 1891 -1985." Yn anffodus roedd wrtsiniaid lleol (neu blant drwg fel roedden ni'n arfer eu galw nhw) wedi bod yn gwneud pob matha o fistimanars yno ac roedd hi'n anodd iawn darllen y gofeb.

Diolch byth doedd na ddim y gallai'r un wrtsin lleol ei wneud i hambygio'r olygfa ei hun.

Caernarfon ac Ynys Môn o Rosgadfan
Tagiau Technorati: | | | | .