Trwy Ddrws-y-coed i Ddyffryn Nantlle
Roedd hi'n chwarter canrif bron ers imi fynd drwy Drws-y-coed ac roeddwn wedi anghofio pa mor drawiadol oedd y dirwedd. Dros yr amser hynny roeddwn i wedi anghofio paw mor drawiadol oedd y dirwedd fan hyny. Roedd mynd ar y ffordd rhwng Craig y Bera a Mynydd Drws-y-coed yn creu yn fy meddwl i y llun o'r bwlch i mewn i ddyffryn colledig, tebyg i ddyffryn colledig Shangri-la yn Lost Horizon gan James Hilton. Wrth gwrs nid i ddyffryn colledig yr ydych chi'n mynd trwy Ddrws-y-coed o Ryd-ddu, ond i mewn i Ddyffryn Nantlle. Nid Dyffryn Nantlle yw dyffryn colledig Cymru - i ddweud y gwir wrth wrando ar Radio Cymru rydych chi'n cael yr argraff taw Dyffryn Nantlle yw unig ddyffryn Cymru sydd ar glawr!
Wrth ddod i Ddyffryn Nantlle o'r cyfeiriad hyn roedd hi'n bosib inni weld gogoniant y lle hwnnw. I'r rhan fwyaf o bobol erbyn hyn yr unig beth yw Dyffryn Nantlle yw pasio Pen-y-groes a Llanllyfni ar y ffordd osgoi. Pwy fuasai am osgoi gogniant y dyffryn mewn gwirionedd o'i weld ar ddiwrnod fel heddiw? Mae'n rhyfedd fel mae ffyrdd yn ystumio ein canfyddiad o lefydd, yn enwedig traffyrdd. Mae meddwl am y gyrrwyr lori sy'n croesi Ewrop o un wlad i'r llall heb sylweddoli hynny yn dangos pa mor wir y hynny - mae pob lle yn debyg, yr unig wahaniaethau yw'r bwyd yn y llefydd bwyta ar ochor y traffyrdd! Wrth i fwy a fwy o bentrefi a threfi Cymru gael eu hosgoi (a dwi'n gwybod y bendithion sydd i'r rhan fwyaf o drigolion fod hynny'n digwydd) bydd y teithiwr talog ddim yn gweld neb na dim ond golygfeydd gwych, ond tynnwch chi'r bobol o'r dirwedd ac mae'r lle wedi newid yn llwyr. Ac i brofi fy mhwynt ystyriwch mewn gwirionedd pa fath o le fyddai Dyffryn Nantlle heb y bobol.
Rhagor o luniau o Ddrws-y-coed.
Tagiau Technorati: Gwyliau | Tirlun | Dyffryn Nantlle | Ffyrdd osgoi.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.