Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 1 (4)

O gwmpas y bwrdd

Y teulu bach yn y gegin glyd, Ffriddoedd, BangorNos Sadwrn a dyma'r pedwar ohonom yn dod ynghyd o gwmpas y bwrdd ar gyfer swper. DML oedd y mwyaf bywiog ei sgwrs gyda barn bendant ar bob dim. Pan ddywedodd DJP, RO a finnau ein bod yn ystyried mynd a daith i Ddyffryn Conwy ar y Sul fe'n condemniwyd fel bradwyr eisteddfodol wrth dro ein cefn ar y fro oedd yn croesawu'r brifwyl. Rhaid imi gyfaddef fy mod yn becso dim am hynny!

Fi wnaeth y swper. Antipasti i gychwyn gyda tomatos wedi'u sychu yn y haul mewn olew'r olewydd, salami, ham, olifau, &c. Wedyn ragu gyda phasta. Cawsom hufen iaw i bwdin. Fe wnes i hefyd osod y cig eidio yn wlych mewn cwrw ar gyfer swper nos Faerth - stiw Fflemaidd.

Rhagor o luniau o Ddydd Sadwrn 1.