Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Yr Eisteddfod - Dydd Sul 1 (1)

I faes yr Eisteddfod yn y Faenol

Prif fynedfa Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau fore SulEr ein bod wedi penderfynu taw i Dyffryn Conwy fusen ni'n mynd heddiw roedd un o'n plith yn gorfod gweithio ar ei stondin ar y maes. Felly cam cyntaf ein taith oedd i faes yr Eisteddfod yn y Faenol. Dyma'r tro cyntaf imi fod tu hwnt i furiau'r Faenol. Dwi wedi'u pasio nhw ers pum mlynedd ar hugain ond dyma'r tro cyntaf i fynd i mewn drwy'r giatiau. Roedd y feidir yn haeddu disgrifad amgenach gyda'r coed a'r rhodedendrons ar hyd-ddi. Er fod y tŷ yn edrych yn digon cyfforddus, doedd e ddim yn ffôl o fawreddog. Ond roedd rhyw deimlad cryf o anghyfiawnder hefyd yn fy llenwi ar yr un pryd wrth gofio fod y teulu wedi ennill eu ffortiwn trwy dwyll a lladrata a gormes. Wrth gwrs, roedd e'n fawr. Roedd digon o ôl y mwd o gwmpas. Ond anghofiwyd am hynny'n fuan wrth inni gyrraedd y prif fynediad a gweld yno yn ei siwt felen yr enwog Tara Bethan gyda'i chriw ffilmio. Aeth DML i ffwrdd i grombil y peiriant eisteddfodol gan ein gadael ni yn rhydd i fynd i wlad bell aneisteddfodol.