Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 1 (3)

Pawb yn cwrdd

Roedd RO a finnaw wedi dod lan heddiw ond roedd DML a DJP yno o'n blaenau roedd y ddau wedi bod yn drigolion Ffriddoedd ers neithiwr. Wrth gyrraedd roeddwn nhw wedi cael pob math o drafferthion - fel y ffaith ein bod wedi ein gosod mewn fflatiau ar wahân, er fy mod wedi gofyn yn benodol mewn llythyr i gael ein gosod yn yr un fflat. Roeddem wedi archebu lle i chwech ar gyfer yr eisteddfod am resymau hanesyddol, ond roedd y fflat yn un i wyth ac roeddwn i yn weddol bendant y buasem yn rhannu gyda rhywun, a dyna yn union a ddigwyddod. Ein cyd-letywyr am yr wythnos yw cwpwl o Wallasey mewn tipyn o oed. Dwi ond wedi'u gweld nhw unwaith.