Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Yr Eisteddfod - Dydd Sadwrn 1 (2)

'Nôl yn y periant amser

Neuaddau Ffriddoedd, BangorEfallai bod ymweld â Bangor yn daith yn ôl mewn amser i mi, ond mae'n llawer mwy o daith felly i RO. Wrth inni agosau at y ddinas roedd yntau yn danos un safle arwyddocaol ar ôl y llall i mi. Penderfynodd fynd am safle Ffriddoedd trwy Benrhosgarnedd a chyrraedd yn ddi-drafferth iawn, ond yn ôl RO roedd y lle wedi newid yn llwyr ers i'w frawd letya yno pan yn y Brifysgol rhyw ddeng mlyned ar hugain a mwy yn ôl. Nid oeddem nepell chwaith oddi wrth Neuadd Reichel a oedd yn ffynhonnell mwy fyth o atgofion!

Roedd y fflat yn iawn - ei phrif nodwedd yw'r coridor, ond ar un pen i'r coridor ceir egin eang ar gyfer wyth, ond dimon pedwar ohonom ni sydd yn mynd i'w defnyddio heno. Y peth cyntaf roedd yn rhaid ei wneud oedd dadlwytho popeth o'r car a chario'r cyfan i mewn i'r fflat a'r gegin. Ond wedi gwneud hynny doedd dim amser i aros o gwmpas rhaid oedd prynu negeseuon ar gyfer y nos. Bant â ni i archfarchnad gyfagos Morrisons - a chwilio am yr hyn oedd ei angen am y penwythnos a'r wythnos i ddodd.

Siop Morrisons, BangorDwi byth yn mynd i siopa yn Siop Morrisons yn Aberystwyth ac ar ôl bod yn siopa ym Mangor dwi'n falch iawn 'mod i ddim yn gwbeud - doedd dim lle i droi yn y siop; roedd hi ffel petai gormod o bethau wedi'u gwthio i mewn i'r adeilad. Ond yn y diwedd fe lwyddon ni wario diogn o arian a chael hyd i'r rhan fwyaf o beth oedd eu hangen arnom i bara'r penwythnos o leia.