
Roeddem wedi trefnu ymadael yn wreiddiol am ryw 11.00am. Slipiodd y dedlein hwnnw i hanner dydd yn haws na Buster Keaton ar groen banana. Roedd hi'n 1.45pm ac wedi cinio cyn inni ddechrau o Aberystwyth yn y diwedd. A dwi'n falch o gael dweud fod popeth wedi ffitio i mewn i'r car hefyd.

Roedd hi'n bwrw glaw wrth inni gyrraedd Arfon - trwy Lanfrothen yn hytrach na Phorthmadog er mwyn ceisio osgoi'r traffig. Mae'r ffordd am Fangor wedi newid yn llwyr ers dyddiau cynnar fy ymweliadau â Bangor yn y 1970au. Ffordd osgoi ar ôl ffordd osgoi ar ôl ffordd osgoi. Weithiau mae'n ymddangos fel petai rhywun am ichi osgoi Arfon yn gyfangwbl! Ond wnaethon ni ddim osgoi PANTGLAS. Wnaethon ni ddim osgoi Arfon chwaith gan droi oddi ar y ffordd fawr i fynd heibio i rai o olygfeydd seminol y fro gan gynnwys Ysgol Brynrefail, Llanrug - alma mater DJP ac Anghard Price. Dwi wedi'i gweld o'r blaen ond y tro hwn yr hyn wnaeth fy nharo y tro hwn yw pa mor debyg yr oedd yr ysgol i dŷ byw - roedd 'na hyd yn oed simnai arni!