Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-15

Amser yn hedfan

Dwi'n gwybod ei bod yn ystrydebol iawn i sylwi ar amser yn hedfan, ond dyna'n union yw fy mhrofiad i dros y mis diwethaf. Dwi wedi bod i ffwrdd yn fwy nag ydyw i wedi bod adref. Ond o'r diwedd dwi wedi dod adref ac yn cael amser i ystyried beth sydd wedi digwydd. Mae gen i gymaint i'w ddweud a'i adrodd am yr hyn sydd wedi digwydd dros y pythefnos diwethaf, fel nad ydyw'n rhy siŵr ble i ddechrau.

Heddiw dwi'n dechrau ar ail wythnos o wyliau o'r gwaith. Bues i ffwrdd yr wythnos gyntaf ac yn aros ym Mangor ar gyfer yr Eisteddfod. Yr wythnos diwethaf fe fues i yn Abertawe gyda'r gwaith mewn cynhadledd ar hanes ffotograffaieth gynnar yng Nghymru.

Felly dwi am ddechrau gyda'r Eisteddfod a'r ymweliad รข'r gogledd.