Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mercher (2)

Ffest ganol nos

Ffest ganolnosAeth DML i'r gwely'n gynnar ac fe arhosais i mewn yn darllen, ond allan i chwilio "crochanau cig" Bangor Uchaf yr aeth DJP, RO ac IwJ. Ni fu'r tri yn hwyr iawn - ond pan ddaethon nhw 'nôl roedd hi'n amlwg eu bod nhw am ffest ganol nos. Ac mae'n amlwg fod IwJ yn hen law ar drefnu pethau o'r fath oherwydd yr oedd y tost yn llifo'n ddidrafferth o'r peiriant tostio i'r fwrdd ac yn cael ei fwyta gydag arddeliad. Dwi ddim wedi mwynhau fy hun cymaint ers oesoedd wrth fwyta tost.

Rhagor o luniau o bumed diwrnod yr Eisteddfod.