Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mercher (1)

Gwneud dim byd

Margarîn organig DMLDydd Mercher ac roedd pawb yn bwriadu mynd i'r Eisteddfod heddiw, ond finnau. Y siarad oedd pwy fyddai'n ennill y Fedal Ryddiaith, yn sgil cyffro Christine James yn ennill y Goron ddydd Llun. Dwi'n hunan yn ceisio dod i delerau gyda'r ffaith fod DML wedi mynd yn 'organig' ar gyfer wythnos yr Eisteddfod. Mae hi'n anodd, ond dwi'n siŵr o lwyddo yn y diwedd.

Wedi i bawb fynd i'r Eisteddfod fe fues i'n darllen ac fe es am dro o gwmpas safle Ffriddoedd. Mae'n rhyfedd sut mae pob lle prifysgol yn llwyddo i edrych yn weddol debyg erbyn hyn. Ond yn wahanol i bob man arall roedd gan Ffriddoedd olygfeydd gwych i'w cynnig o Eryri, Afon Menai ac Ynys Môn.

Heno fe wnes i newid ychydig ar y fwydlen gan symud yr hyn a fwriadwyd ar gyfer nos Wener i heno - salad i gychwyn, ac yna golwython porc wedi'i pobi gyda llysiau (rysait o Wlad y Basg) gyda thatw stwmp. I bwdin yr oeddwn wedi gwneud halfa yn null Gwlad Groeg (semolina gydag olew'r olewydd ac almonau mâl wedi'i felysu gan fêl a siwgr coch); roedd pawb yn ddigon poleit i ddweud ei fod yn iawn, ond roedd hi'n amlwg nad oedd wedi gweithio'n iawn! Pan ddaeth pawb i mewn o'r Eisteddfod y newyddion mawr oedd taw Dylan Iorwerth oedd wedi ennill y Fedal.