Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (1)

Mentro i Fôn unwaith eto

BiwmaresHeddiw dyma fentro i Ynys Môn unwaith eto yng nghwmni RO, ond yn tro hwn i'r pen arall yn hollol, sef y de-ddwyrain - ardal Biwmares. Doeddwn i ddim wedi bod ym Miwmares ers dros ugain a doeddwn i ddim yn rhyw siŵr beth i'w ddisgwyl. Mae pawb yn sôn am Seisnigrwydd y lle; ond rhaid imi ddweud i ni gael ein siomi ar y ochr orau. Roedd y dref yn orlawn, wrth gwrs, ond fe lwyddon ni barcio ar y grîn ac roedd y dyn oedd yn derbyn yr arian yno yn siarad Cymraeg. Roedd yr olygfa o fa'no, yn edrych tuag at arfordir Arfon a draw i Landudno yn wych.

Stryd y Castell, BiwmaresRoedd dim ond crwydro drwy'r dref yn ddigon o bleser - roedd yr haul yn disgleirio, ond oherwydd awel braf nid oedd yn rhy gynnes. Doedd dim ots lle'r oeddech chi'n edrych ar y brif stryd, Stryd y Castell, yr oedd 'na bobl yn sefyll neu'n siarad neu'n cerdded. Un peth wnaeth fy nharo i oedd pa mor lân oedd y lle. Er mwyn cael ychydig o dawelwch dyma RO a finnau yn mynd i grwydro yn rhai o'r strydoedd cefn. A chyn bo hir yr oeddem wedi dod ar draws un o atyniadau'r dref, sef yr hen garchar.