Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (13)

Cemais ac yn ôl i Fangor

Pont BritanniaMae'n anodd credu ein bod wedi llwyddo i wneud cymaint mewn un diwrnod. Erbyn hyn roedd yn bryd inni feddwl am fynd yn ôl i Fangor. Ond roedd un dyletswydd arall i'w wneud cyn troi am Ffriddoedd. Mae gan RO fodryb yn byw yng Nghemais ac roedd yn rhaid inni alw i'w gweld. Cawsom groeso cynnes iawn, ond wnaeth hi ddim gadael inni amharu dim ar ei mwynhâd o'r Eisteddfod ar S4C Digidol! Roedd hi'n cadw taflen sgorio ei hun o'r cystadlaethau jyst i weld a oedd y beirniaid swyddogol yn cael y canlyniad yn iawn weithiau. Daeth RO â chopi o Raglen y dydd iddi, roedd hi wrth ei bodd. Roedd hi'n weddol bendant ei barn am bawb a phopeth - dim amser o gwbwl ar gyfer brodoron Cemais oedd yn mynnu siarad Saesneg gan esgus nad oeddent yn medru Cymraeg. Wedi iddi adael inni wybod eu barn am hynny bu hithau a RO yn hel hanesion y teulu am ychydig cyn inni gael te braf a ffarwelio.

Wedi cyrraedd adref dyma droi at y coginio ar gyfer swper. Roedd pawb yn hwyr oherwydd y traffig difrifiol o gylch Pont Britannia a'r fynedfa/allanfa o faes yr Eisteddfod. Yr hyn a gafwyd i swper oedd salad i gychwyn, yna Tajîn cyw iâr gyda bricyll, priwns a mêl a llysiau (pryd roeddwn wedi bwriadu ei wneud nos Iau, ond mae IwJ yn dweud y bydd yn mynd yn ôl i Aberystwyth bryd hynny ac fe wnes i'r pryd gan wybod y buse fe'n mwynhau), ond yn lle'r Eirin gwlanog amaretti siocled dyma gael caws a bisgedi. Roedd pawb yn ddigon hapus gyda'r pryd. A dyna ddiwedd diwrnod a hanner o fynd a dod a gweld a dysgu. Bydd 'fory yn dawelach dwi'n gobeithio!

I weld yr holl luniau o'r pedwerydd diwrnod.