Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (9)

Capeli

Capel Jerwsalem, Mynydd MechellCefais i fy magu mewn plwyf lle nad oedd ond dau ddewis sef mynd i'r capel neu i'r eglwys, ac i ddweud y gwir am y rhan fwyaf o'r amser roeddwn i'n byw yno doedd yr eglwys ddim yn ddewis go iawn - capel y Bedyddwyr neu ddim oedd hi go iawn ym Mynachlog-ddu. Ym Maenclochog ar y llaw arall roedd 'na embaras o ddewis - capel y Bedyddwyr, eglwys y plwyf, a dau gapel cynulleidfaol. Wrth gwrs petai rhywun ym Mynachlog-ddu neu Faenclochog am gapel methodistaidd byddai'n rhaid iddyn nhw deithio'n bell.

Ym Mynydd Mechell roedd 'na ddigon o ddewis, gan gynnwys capel methodistaidd, wrth gwrs - Jerwsalem M.C. Dyma lle'r oedd RO wedi bod yn yr Ysgol Sul. Capel ei dad oedd hwn. Yn wahanol i fy rhieni i fe sticiodd rhieni RO gyda'u gwahanol gapeli wedi priodi.

Capel Calfaria, Mynydd MechellCapel mam RO oedd capel y Bedyddwyr ym Mynydd Mechell, sef Calfaria. Mae'n siŵr bod egwyddorion mawr wedi bod ar waith yma. Roedd pethau fel hyn yn arfer bod yn bwysig iawn slawer dydd; erbyn heddiw maen nhw'n amherthasol i bob pwrpas. Yn y lle cyntaf mae'r gwahanol eglwysi yn llawer mwy parod i gyd-weithio'n agos at ei gilydd. Yn ail, prin yw bywydau bellach sy'n cael eu cyffwrdd gan bethau fel hyn. Ond nid oedd yn anghyffredin o gwbwl, fe ddigwyddodd yn fy nheulu i yn achos fy nhad - roedd ganddo yntau bedair chwaer ac fe magwyd hwy bob un yn Fedyddwyr fel eu mam; magwyd fy nhad yn Annibynnwr fel ei dad yntau, ond er mwyn gwneud hynny roedd yn rhaid gadael plwyf Mynachlog-ddu a mynd am Grymych ym mhlwyf Llanfyrnach.