Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (10)

"A dyna fe Mynydd Mechell... Llanfechell sydd nesa"

Tyddyn Mieiri, LlanfechellO fewn dim roedd Mynydd Mechell o'n holau a ninnau yn cyrraedd cyrion Llanfechell. Ar ôl disgwyl cymaint i weld lle roedd wedi mynd heibio mewn chwinciad. Ni chefais fy siomi; ond bydd yn rhaid dychwelyd yma eto i ddechrau deall y lle yn iawn. Wrth agosau at Lanfechell dyma dod at Dyddyn Mieri - cartref RO o'r amser pan oedd yn un-ar-ddeng mlwydd oed. Tŷ braf a solet yr olwg ac yn ddigon i wneud y tŷ lle cefais i fy magu ymddangos fel slwm!

Capel Ebenazer, LlanfechellGyferbyn â Thyddyn Mieri bron saif Capel cynulleidfaol Ebenazer. Mae'n gapel echreiddig yr olwg gyda ffenest ffug fawr ar y tu blaen. Nid oes unrhyw reswm dros hyn ond ymgais i edrych yn fwy 'up-market'! Ac wrth ddarllen yr arysgrif ar du blaen y capel hefyd fe welir nad 'Ebenezer' yw ei enw, ond 'Ebenazer' - hynodyn arall. Mynwent Ebenazer yw mynwent y pentref i bob pwrpas - er caiff rhai eu claddu yn Eglwys Llanfflewin - ac yma y gorwedd anwyliaid RO. Pan fyddaf i yn ymweld â chladdfa newydd Bethel, Mynachlog-ddu, lle gorwedd fy nhad a'm mam, mae'n rhaid imi gyfaddef fy mod yn dechrau gwerthfawrogi atyniad at 'addoliad cyndadau a chynfamau' sy'n nodweddiadol o gymaint o ddiwylliannau. Mae 'na ryw gymundeb cyfriniol i'w gael wrth sefyll ar lan beddau teulu a chymdogion a chydnabod ac edrych o gwmpas - ym Mynachlog-ddu mae mynyddoedd Preseli yno yn gysgod ac yn dystion i'r hyn sydd wedi digwydd ac yno dwi'n eu gweld nhw hefyd fel arwyddion o'r cyfiawnder roedd fy mam yn dyheu amdano ac yn ei ddeisyfu.