Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (8)

Eglwys Llanfflewin


Heibio i Dŷ Hen ac i glos fferm a heibio i'r clos, a dyma ni'n dod at Eglwys Llanfflewin. Credir fod sefydliad yr eglwys yn dyddio o OC 630. Fe'i cysegrwyd ar enw Fflewin, neu Fflewyn, aelod o deulu o saint o Lydaw. Dyma'r unig eglwys ar ein enw yng Nghymru. Cynhelir gwasanaethau yma yn yr haf, ac mae'r fynwent yn cael ei defnyddio o hyd. Yn anffodus roedd y drysau ar glo, ond roedd profi'r fan lle safai yn ddigon mewn gwirionedd. A oedd hi wedi bod mor anghysbell erioed? Ai dyma sut roedd y Cristnogion cynnar yng Nghymru yn gweld eu galwedigaeth - i fod ar gyrion cymdeithas, yn herio y gwerthoedd a'r ffordd o fyw a arferid yno?

Rhagor o luniau o Eglwys Llanfflewin.