Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (7)

Mynydd Mechell o'r diwedd

Mynydd Mechell o'r diweddRoedd popeth a aeth o'r blaen heddiw yn rhagymadrodd ac yn baratoad ar gyfer hyn - fy ymweliad cyntaf â Mynydd Mechell. Roeddwn wedi clywed cymaint am y lle fel ei bod braidd yn anodd credu fod y lle yn bod ac nad oedd mewn gwirionedd ond rhywle rhithwir. Ond o'r diwedd dyma gyfle i drawyo ei strydoedd, mewn ffordd o siarad. Wrth gwrs ffyrdd troellog oedd yno mewn gwirionedd, ffyrdd troellog yn mynd o un lle arwyddocaol i'r llall. Dacw Fern Hill, ond nid y Fern Hill a ysrbydolodd Dylan Thomas neu fe fydd yn rhaid inni ail-ysgrifennu'r llyfrau i gyd.

Tŷ Hen, Mynydd MechellCyn imi fedru ystyried y peth yn iawn roeddwn y tu fas i Dŷ Hen, cartref cyntaf RO. Dim llawer i'w weld yno bellach - ond does dim amau fod yma le arbennig iawn. Gweld y caeau a'r cloddiau lle bu yntau a'i frawd yn chwarae. Gweld y tirwedd, gweld yr awyr a'r cymylau, a dechrau deall ychydig bach yn fwy. Heibio'r tŷ â ni a dilyn y ffordd i fynd â ni at Eglwys Llanfflewin. Un arall o eglwysir rhyfedd Ynys Môn yn sefyll ar ganol cae, fel tase'r byd wedi dewis mynd ryw ffordd arall, ond bod yr eglwys wedi dewis aros a chadw ei lle.