Melinau gwynt a reciwsantiaid
Efallai bod melinau gwynt traddodiadol yr ynys wedi diflannu bron yn gyfangwbl, ond nawr mae melinau modern yn dod i gymryd eu lle. Wrth deithio o Landdeusant i Fynydd Mechell fe aethon ni heibio i ddwsinau, ac roedden nhw i'w gweld yn ymestyn i bob cyfeiriad bron. Aethom heibio i fferm Brwynog, cartref y bardd
Siôn Brwynog (m. 1562) a phabydd selog. Mae'n rhaid fod y rhan hon o Fôn yn magu pabyddion selog oherwydd y lle nesaf inni ymweld ag ef oedd cartref
Hugh Owen (1575?-1642) y cyfieithydd, Gwenynog.

Erbyn heddiw mae Gwenynog yn furddyn, ond yma y magwyd un a droes ei gefn ar Brotestaniaeth ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg a throi at Babyddiaeth. Nid oedd hynny'n ddewis hawdd ei wneud gan y golygodd y bu'n rhaid iddo adael ei fro enedigol a cheisio nodded a gwaith gan deulu o uchelwyr Pabyddol. Aeth ef at deulu Herbert, Castell Raglan lle bu'n gweitho hyd ymddeol tua 1640 pan aeth i fyw i ardal Tyndyrn. Bu farw yn 1642. Cyfieithodd
Dilyniad Crist Tomos o Kempen i'r Gymraeg, ond ni chyhoeddwyd y gwaith tan wedi ei farwolaeth.