Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (5)

Elim, Llanddeusant

Capel Elim, Elim, LlanddeusantEfallai taw o blwyf Llanddeusant y deuai teulu RO ar ochr ei dad, ond nid o bentref Llanddeusant ychwaith. Deuent yn wreiddiol o bentref rhyw filltir neu ddwy i ffwrdd a dyfodd o gwmpas capel Elim, capel y Methodistiaid Calfinaidd, neu'r Presbyteriaid, ac a gymerodd enw'r capel. Mae'r capel wedi cau bellach, ond mae'n dal i sefyll yn urddasol ar lan Afon Alaw. Mae'r arysgrif ar flaen yr adeilad yn datgan fod y lle wedi'i losgi yn 1912 ond ei fod wedi ei atgyweirio y flwyddyn ddilynol. Afraid dweud fod y capel wedi cau erbyn hyn fel nifer fawr o gapeli ac eglwysi ar hyd a lle Arfon a Môn. Dwi fel arfer yn dweud taw dyna fel y dylai fod - os nad oes iws i gapel does dim pwynt ei gadw'n agored, ond mae gweld oblygiadau ymarferol yr egwyddor hwnnw yn medru bygwyth torri calon dyn.

Codwyd calon dyn gan olygfa ar lan arall Afon Alaw, gyferbyn â'r capel, sef hwyaid yn gadael yr afon ac yn cerdded tuag adref. Wedi croesi'r bont a gweld y tŷ lle ganed nain RO roedd hi'n amser inni fynd yn ein blaenau unwaith eto. Yr oeddem yn dod yn nes at Fynydd Mechell - ein gobaith oedd cyrraedd cyn iddi nosi!

Rhagor o luniau o Elim, Llanddeusant.