Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (4)

Llanddeusant

Eglwys LlanddeusantY rheswm inni ddod i'r ardal oedd oherwydd cysylltiadau teuluol RO â'r lle. Felly'r lle cyntaf inni anelu ato oedd eglwys y plwyf a'r fynwent. I ddweud y gwir nid yw'r eglwys bellach yn eglwys y plwyf fel y cyfryw gan ei bod yn eiddo i'r gymuned leol. Defnyddir yr adeilad yn achlysurol ar gyfer gwasanaethau ac mae'r fynwent yn dal i gael ei defnyddio fel mynwent. Yr oedd yr eglwys wedi'i chysgeru ar enwau Marcellus a Marcellinus - dau sant Lladin peth anghyffredin iawn ym Môn gyda'i chnwd enfawr o seintiau Prydeinig a Gwyddelig.

Hen hysbysfwrdd Eglwys Marcellus a Marcellinus, LlanddeusantWrth inni fynd at borth yr eglwys fe gawsom fod y lle ar glo, ond fe aethom i holi mewn fferm gyfagos rhag ofn eu bod hwy'n gwybod lle'r oedd yr allwedd ar gael. Fel mae'n digwydd roedd yr allwedd ganddynt hwy ac fe lwyddon ni gael mynediad i'r eglwys. Doedd dim byd yn drawiadol iawn am yr adeilad ond roedd yn llecyn hyfryd iawn. Ac rr nad oedd dim un peth cwbl drawiadol, gyda'i gilydd roedd popeth am yr eglwys a'i safle yn creu awyrgylch arbennig. Efallai taw un peth a wnaeth fy nharo i yn fwy na dim oedd yr hen arwydd yn cyhoeddi'r gwasanaethau yn yr eglwys wedi'i daflu o'r neilltu. Fe ddylai gael ei gadw am resymau hanesyddol, cymdeithasol a chrefyddol. Roedd yn uniaith Gymraeg i ddechrau (peth prin iawn iawn yn yr Eglwys yng Nghymru bellach), roedd 'na ddau wasanaeth bob Sul ond un yn unig bod mis oedd yn wasanaeth y Cymun Bendigaid - eglwysyddiaeth wahanol ac efallai ychydig o ddylanwad anghydffurfiaeth!

Rhagor o luniau o Landdeusant.