Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (3)

Melin Llynnon

Melin Llynnon, LlanddeusantMelin Llynnon yw'r unig felin wynt sy'n dal i weithio ar Ynys Môn lle bu cannoedd unwaith yn malu ŷd a cheirch i fwydo'r ynys a gweddill Cymru. Saif y felin yn agos i bentref Llanddeusant yn ngorllewin Môn ac mae'n un o'r safleoedd sydd yng ngofal y Cyngor Sir megis Oriel Môn, Carchar Biwmares a goleudy Ynys Lawd. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd wrth inni gyrraedd at y felin a'i muriau gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul. Drws nesaf i'r felin ei hun saif canolfan i ymwelwyr yn cynnwys siop a thŷ bwyta. Roedd hi'n amser cinio ac felly fe aethom ni i'r tŷ bwyta a chael gwasaneth cyfangwbl Gymraeg mewn awyrgylch Gymraeg.

Cofeb Robert ap Huw, Melin Llynnon, LlanddeusantAr un o'r muriau yn y tŷ bwyta roedd cofeb i un o'r ardal, yr enwog Robert ap Huw, awdur neu ran-awdur BM Addl MS 14905 - llawysgrif o gerddoriaeth delyn o'r unfed ganrif ar bymtheg, ond yn cofnodi cerddoriaeth cyfnodau cynharach. Yr hyn sy wedi troi'r llawysgrif yn ddirgelwch yw'r ffaith i Robert ap Huw ddefnyddio ei nodiant ei hun i gofnodi'r gerddoriaeth ac mae'n rhaid i'r sawl sydd am ei deall ddehongli ei nodiant ac nid yw pawb yn gwneud hynny yn yr un modd. Yn ddiweddar ceisiodd Paul Dooley ei dehongli a'i chanu ar y delyn.

Ynglŷn â'r felin ei hun alla i ddim dweud rhyw lawer gan nad es i na RO i fyny i'r entrychion. Roeddem yn ddigon hapus yn edrych arni o'r ddaear. Ond os oes yr amser a'r egni gyda chi dwi'n siŵr ei bod hi'n werth ceisio gweld mwy ohoni.

Rhagor o luniau o Felin Llynnon.