Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (12)

Perygl!

Arwydd Ysgol Gynradd Llanfechell
Mae'n rhaid fod Llanfechell gyda'r lle mwyaf peryglus yng ngogledd-orllewin Môn gan fod arwydd rhybuddiol iawn ar wal yr ysgol - Dim cŵn; Dim beicio; Dim golffio; Caniateir chwarae pêl droed ar y cae yn unig; Dim loetran ger yr adeilad; Dim dringo ar y to. Dwi'n gobeithio'n fawr fod Cyngor Sir Ynys Môn yn caniatáu i'r trigolion anadlu pan fo angen!