Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-17

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (11)

Mwy na dim ond capeli

Cofeb i William Jones, Ysgol Gynradd LlanfechellRhag ofn i bawb feddwl fod y daith wedi bod yn un eglwys- a chapel-ffest buasai'n well imi ddangos y gofeb ddiddorol sydd ar wal Ysgol Gynradd Llanfechell. Cofeb yw hi i William Jones, mathemategydd a'run i gyflwyno'r defnydd o'r arwydd π. Er ein eni yn Llanfihangel Tre'r Beirdd, fe gafodd ei addysg yn Llanfechell a dyna'r rheswm am osod y gofeb yma.

syrwilliamjonesRoedd ef hefyd yn dad i Williams Jones arall, Syr William Jones (1746-1794) yr ieithydd sydd yn enwog am ddarganfod y teulu ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Yr oedd yn ieithydd o'r crud gan feistroli Groeg, Lladin, Perseg, Arabeg ac elfennau Tsienieg yn ifanc. Bu farw ei dad pan oedd yn dair blwydd oed ond llwyddodd i raddio o Rydychen yn 1764. I dalu ei ffïoedd bu'n diwtor i deulu Spencer, Althrop (cysylltiad arall rhwng Diana a Chymru!). Astudiodd y gyfraith a bu'n farnwr yng Nghymru am gyfnod, ond yn 1783 fe'i hapwyntiwyd i Uchel Lys Bengal ac yno medrodd ymroi'n llwyr i'w gariad at bethau dwyreiniol. O'i holl ddarganfyddiadu efallai taw ei sylw am debygrwydd Sanskrit i Groeg a Lladin a'u bod yn dod o wreiddyn cyffredin oedd y mwyaf arwyddocaol gan arwain at sefydlu perthynas y teulu Indo-Ewropaidd o ieithoedd.