Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (1)

Mentro i Ynys Môn

Pont BritanniaErs misoedd bu RO yn addo dangos rhai o lefydd arwyddocaol Ynys Môn i mi. Yr hyn yr oedd hynny yn ei olygu mewn gwirionedd oedd ardal ei fagwraeth yng ngogledd orllewin yr ynys. Roeddwn i'n edrych ymlaen yn fawr iawn i wneud hynny. Does dim byd fel cael eich tywys mewn ardal lle mae'r tywysydd yn gwybod popeth sydd i'w wybod bron am y lle. Roeddwn i'n gwybod y buaswn yn tynnu toreth o lluniau o'r ardal felly dyma alw mewn siop gyfirifiaduron ym Mangor ar ein ffordd i brynu cerdyn mwy i'r camera - er mwyn medru storio'r holl luniau hynny'n hawdd. Dwi wastad yn edrych ymlaen i ymweld â Môn ers imi ddod i Fangor am y tro cyntaf yn deg. Mae llefydd fel Penmon, Din Llugwy a Thraeth Coch yn gyfareddol.

Fferm PenmynyddRoedd cyrraedd Pont Britannia yn dipyn o gamp gan fod holl draffig i Ynys Môn yn mynd ar hyd-ddi wrth i Bont Menai gael ei phaentio a'i thrwsio. Golygai hyn fod traffig yn dod at y bont o bob cyfeiriad posibl. Ond yn y diwedd ni chymerodd cymaint â hynny o amser i'w chroesi wedi'i chyrraedd. Trwy Borthaethwy wedyn ac ymlaen i Langefni trwy ardal Penmynydd. Wrth fynd heibio fe geision ni ein gorau i weld y tŷ oedd yn gysylltiedig â'r Tuduriaid a disgynyddion Ednyfed Fychan ond dwi ddim yn siwr a welson ni e.