Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Mawrth (2)

Llangefni a thu hwnt

Neuadd y dref, LlangefniO fewn dim roeddem yn nhref Llangefni, ond doedd gennym ni ddim amser i'w wastraffu heddiw yma. Roedd yn rhaid mynd yn ein blaenau. Y nod y gosododd RO i ni'n hunain oedd cyrraedd Melin Llynnor ym mhlwyf Llanddeusant erbyn amser cinio. Felly heibio i Neuadd y dref, Tŵr y cloc a Chapel Cildwrn ac am bentref Bodfordd. Cawsom ychydig o amser ym Modffordd i alw heibio eglwys plwyf Heneglwys, yna ymlaen heibio maes awyr Llangefni Rhyngwladol (Mona), safle Primin Môn, man geni John Morris-Jones yn Nhrefor ac am Lyn Llywenan.

Llyn LlywenanLlyn Llywenan yw llyn naturiol mwyaf Ynys Môn. Mae'r llyn ag arwynebedd o 39.1ha ac mae'n mesur 3.4km o gwmpas y llyn. Er bod y llyn ar agor i'r cyhoedd mae'n perthyn i ystad Presaddfed. Er ein bod yn ceisio prysuro am Landdeusant roedd cymaint o bethau diddorol i'w gweld ar y ffordd fel ein bod yn colli amser yn gyson. Roedd awyrgylch Llyn Llywenan yn arbennig iawn a'r golygfeydd yn hyfryd. Cyfarfu RO â gŵr a gwraig leol allan ar ei beiciau gyda'u hwyrion.

Mynwent Capel Ainon, Pen-LlynNid nepell o'r llyn ym Mhen-llyn safai capel Ainon, capel y Bedyddwyr ("Yr oedd Ioan yntau yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, am fod digonedd o ddŵr yno; ac yr oedd pobl yn dod yno ac yn cael eu bedyddio." Ioan 3.23). Roedd y lle yn gwbl dawel heb na gar na fisityr yn pasio heibio. Roedd y capel bach wedi'i gadw'n lân ac yn daclus ac roedd y cysgod y coed yn y fynwent yn berffaith ar ddiwrnod heulog fel yr oedd hi. Ond nid oedd amser i oedi gormod. Roedd Melin Llynnon yn galw.

Rhagor o luniau o Lyn Llywenan a chapel Ainon.