Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Llun (2)

Ymwelwyr annisgwyl

Ymwelwyr nos LunWedi cinio o'r cawl minestrone oedd yn weddill o ddoe, fe aeth IwJ i orffwys ac fe ddechreuais i baratoi swper. Newid ychydig ar y fwydlen: Cawl moron Fflandrys i gychwych, yna'r Carbonada neu'r stiw bîff o Fflandrys, ac i orffen wafflau gyda mefus a hufen. Fe aeth popeth yn iawn ac erbyn i bawb ddod adref o'r eisteddfod roedd y swper yn barod. Roedd pethau'n flasus iawn, yn arbennig felly y cawl moron. Wedyn fe aeth rhai mas, rhai i'r gwely ac fe arhosais i yn y gegin yn gwneud nodiadau ar gyfer y blog. Tua 11.00pm dyma DJP ac RO yn dod 'nôl o Fangor Uchaf yng nghwmni cyfeillion eraill. Roeddem wedi trafod pryd fydden nhw'n galw ond heb gytuno ar noson felly roedd yr ymweliad yn un annisgwyl. Roedd pawb yn barod am ddiod a rhywbeth i'w niblo cyn mynd adref am y Felinheli a ninnau i'n gwelyau yn dawel.

Rhagor o luniau o'r trydydd diwrnod.