Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-16

Yr Eisteddfod - Dydd Llun (1)

Siopa gyda IwJ

Siop Tesco, BangorFore Llun fe aeth pawb i ffwrdd i'r Eisteddfod gan fy adael i ac IwJ yn y fflat yn Ffriddoedd. Treuliwyd y rhan fwyaf o'r bore yn hamddenol iawn yn siarad a sgwrsio rownd i'r ford. Yn y diwedd roedd yn rhaid inni fynd mas i geisio gwneud y siopa terfynol ar gyfer yr wythnos. Er bod y ddau ohonom yn ffieiddio at fonopoli Tesco roedd yn haws nag unrhyw le arall. Ond felly yr oeddwn yn ei gredu. Pan gyrhaeddon ni Siop Tesco ym Mangor yr oedd honno wedi ymuno yn hwyl yr ŵyl ac wedi symud i babell. Roedd y lle yn gyfyng a dan ei sang. Wnes i ddim mwynhau'r profiad o gwbwl. Ond roedd angen negeseuon arnon ni.

Dwi'n falch i ddweud inni gael llawer o bethau yno, ond roeddem yn edrych am fotel o'r cwrw Leffe ar gyfer y stiw Fflemaidd ac nid oedd un ar gael yn Siop Tesco. Felly dyma benderfynu galw yn Siop Lidl ar y ffordd 'nôl. Dyma wyneb IwJ yn goleuo gyda brwdfrydedd oherwydd dyma fyddai'r tro cyntaf erioed iddo ymweld â Siop Lidl. Wel am fraint, cael cyflwyno rhywun i uchafbwyntiau ac isafbwyntiau Lidl. Buon ni'n crwydro o gwmpas y siop honno am amser, ond unwaith eto heb ddod o hyd i gwrw Leffe Bruin. Felly cyn mynd yn ôl i Ffriddoedd rhaid oedd galw heibio Siop Morrisons lle'r oeddwn i gwybod fod Leffer ar y silff!