Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (9)

Adre'n ôl, neu o leia 'nôl i Fangor

Mast LlanddonaAr ôl treulio dau ddiwrnod ar Ynys Môn y cyfan fedrwn i ei feddwl oedd cymaint mwy oedd ar ôl i'w weld. Mae gan bob plwyf, bob pentref hanesion a hynodion. O Lanfihangel Dinsylwy a thangnefedd hydolus Celtaidd gwlad Seiriol, dyma ddod yn ôl ar ein hunion i'r byd go iawn wrth inni sefyll yng nghysgod mast Llanddona ac edrych ar y twristiaid yn tyrru ar Draeth Coch. Ond troi ein cefnau roeddwn ni yn ei wneud ar dde-ddwyrain Môn a chychwyn yn ôl am Bont Britannia a'r tir mawr a swper.

Heno roedd naws Groegaidd i'r fwydlen ddiwygiedig - salad Groegaidd i gychwyn gyda digonedd o gaws ffeta, ac yna pastisto gyda chig twrci; doed dim lle i bwdin felly caws a bisgedi i bawb. Roedd yn flasus iawn. Mae diwedd yr wythnos yn agosau ac yfory dwi'n mynd i'r eisteddfod!

Yr holl luniau o chweched diwrnod yr eisteddfod.