Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (8)

Eglwys arall

Llanfihangel DinsylwyO Drwyn-y-penrhyn dyma droi am Langoed, ac ar ôl galw yn y Siop Spar yno, fe aethon ar ffordd gefn tuag at Landdona. Ar hyd ffordd gefn a ddaeth â ni at un arall o eglwysi hynod Ynys Môn, Llanfihangel Dinsylwy y tro hwn. Fel llawer o eglwysi Môn mae Llanfihangel Dinsylwy ar ganol cae a rhaid cerdded ati - er roedd 'na lwybr o ryw fath ar gyfer mynd ag hers adeg angladd. Roedd yr olygfa o'r eglwys yn wych - Ynys Seiriol a Phen-y-Gogarth. Pan fo prydferthwch naturiol o'r fath yn eich wynebu mae'n rhaid fod rhywbeth ynoch chi sydd am roi mawl neu ddiolch, ac mae'r cysegriad i Fihangel yn awgrymu fod pobol wedi bod yma o flaen Cristnogion yn edrych y tu hwnt i'r materol mewn rhyfeddod neu ofn neu rywbeth

Rhagor o luniau o Lanfihangel Dinsylwy.