Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Gwener (1)

Eisteddfod

Mwy o fwd o faes yr EisteddfodMae dynion wastad yn dweud wrtha i, "Mae'n rhaid eich bod chi'n rhywun sy'n mwynhau'r eisteddfod." Y gwir amdani yw nad ydw i'n un sy'n gwneud cymaint â hynny. Nid gwneud ati, nid ceisio bod yn 'ddyn blin' ydw i, ond mewn gwirionedd nid wyf yn cael cymaint â hynny o fwynhad. Mae cyfeillion, fel DML, yn ystyried dweud hyn yn heresi - "Fe ddylai unrhyw Gymro neu Gymraes ddiwylliedig fwynhau'r eisteddfod, dyna'r lle y mae'n rhaid iddyn nhw fod ddechrau Awst." Diolch yn y lle cyntaf i DML am fy nghyfri (dwi'n credu) ymhlith y diwylliedig, ond dwi'n ofni fy mod yn gorfod torri'r rheol ynglŷn â chariad neu ddyletswydd tuag ati. Ymhlith yr ungeiniau o 'drafodaethau brwg' a gafwyd yn ystod yr wythnos, bu'r un yn fwy brwd na sut i wneud yr eisteddfod yn ddeniadol i bobol fel fi. Awgrymais taw ei chynnal hi yn Lerpwl fyddai'r ateb fel y byddai'n bosib i mi yng nghwmni fy nghyd Léwsyn ei boicotio heb unrhyw gydwybod a chael blwyddyn heb eisteddfod.

GH, WH, Dogfael ac RO tu fas i Loches y Ddraig ar faes yr EisteddfodEfallai taw profi'r hen ddihareb mae hyn i gyd - "Gormod o eisteddfod nid yw dda". Oherwydd dechreuais i fynd i aros y maes pebyll yn yr Eisteddfod genedlaethol cyn imi gael fy mhen blwydd yn bymtheg. Fy eisteddfod gyntaf oedd Bro Dwyfor (Cricieth) yn 1975 - lle treuliais i'r rhan fwyaf o amser yn y babell lên! Yn Eisteddfod Aberteifi 1976 fe fues i'n aros ar y maes pebyll, er nad oedd Mynachlog-ddu ond 12 milltir i ffwrdd. Dwi'n cofio mynd i wrando ar R. S. Thomas yn traddodi ei ddarlith enwog 'Abercuawg' yn y babell lên yno, a chael fy hun yn heretic wrth ffindio'r peth braidd yn ddiflas - pymtheg oeddwn i ar y pryd a dwi'n gwybod yn well beth ddylwn i ei feddwl erbyn hyn!

Wedi meddwl nid bai'r Eisteddfod yw hyn i gyd. Mae'n rhaid fy mod i wedi newid llawer mwy na hithau dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Ond mae un diwrnod yn well na dim.