Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-19

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (7)

"Onid hoff yw cofio'n taith?"

Y colomendy, PenmonYr oedd cymaint o bethau i'w gweld ym Miwmares ei hun nes inni dreulio llawer iawn o amser yno. Canlyniad hynny oedd llai o amser ar gyfer y llefydd eraill yr oeddem am ymweld รข hwy. O Fiwmares yr aethom tuag at Benmon - roeddwn i wedi bod yno fwy nag unwaith ac felly pan gyrhaeddon ni 'na a gweld bod parcio ger y priordy yn afresymol o ddrud fe droeon ni rownd yn y fan a'r lle a mynd i chwilio am rywle arall y gallen ni aros am ddim. Dyma aros ger Trwyn-y-penrhyn i fwynhau yr golygfa tuag at Arfon a hynny heb dalu ceiniog!