Cinio yn y Bull, Biwmares
Mae ymweld â safleodd hanesyddol yn waith caled felly mae'n rhaid wrth ginio dechau i gadw dyn i fynd am ddiwrnod cyfan. Pan wedes i ein bod yn bwriadu ymweld â Biwmares fe wnaeth sawl un ymateb trwy ddweud y dylen ni wneud yn siŷr ein bod yn ymweld â'r Ye Olde Bulls Head i gael bwyd. Roedd canmol mawr ar y bwyd yno ac felly gan nad oeddem ni'n ymweld â Biwmares bob dydd fe benderfynon ni wrando ar y cyngor a dderbyniwyd.
Roeddwn i'n ofni na fydda lle yno oherwydd yr oedd y dref yn arbennig o brysur, ond roedd RO am ddyfalbarhau. A diolch iddio am wneud oherwydd fe gafwyd pryd o fwyd hyfryd a hynny yn awyrgylch ddymunol y brasserie. Ces i chowder hadog i gychwyn a selsig a thatw stwmp i ddilyn. Cafodd RO gawl tomatio a brechdan bîff. Wedi bwyta roeddem yn barod am fwy o hanes a diwylliant.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.