Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-18

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (4)

Beddrod Siwan

Arch Siwan, Eglwys BiwmaresEfallai taw'r gwrthrych mwyaf diddorol yn Eglwys Biwmares yw Arch Siwan, neu Joan, merch brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn ap Iorwerth, neu Lywelyn Fawr. Mae'r arysgrif dairieithog - Cymraeg, Saesneg a Lladin - ger yr arch ym mhorth yr eglwys yn dweud iddi gael ei symud yno gan Thomas James Warren Bulkeley yn 1808 o'i safle gwreiddiol yn nhŷ'r Ffransisciaid (y 'Ffriars') yn Llanfaes - mynachlog y sefydlodd Llywelyn er cof amdani ond a ddiddymwyd yn ystod teyrnasiad Henry VIII.

Mae'r arysgrif Gymraeg yn darllen fel hyn:
"Yr arch yma | yn yr hwn y gorweddodd | Joan merch brenin Jôn, gwraig | Llewelyn ap Jorwerth Twysog Gwynedd, | yr hon a fu farw yn y flwyddyn 1237 | wedi ei symmud o'r gladdfa yn y | Ffriars, ac wedi bod yn wael ei barch | ysywaeth dros lawer o flynyddoedd | yn gafn dwfr i geffylau a g'add ei | waredu o'i gyflwr dirmygus, a'i osod | yma i'w gadw, ac i ddangos hefyd | wacced yw anrhydedd a mawredd daearol, gan | Thomas James Warren Bulkeley, Pendefig Arglwydd Bulkeley Hydref 1808."
Rhagor o luniau o arch Siwan yn Eglwys Biwmares.