Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-08-18

Yr Eisteddfod - Dydd Iau (6)

Yr hen lys barn, Biwmares

Yr hen lys, BiwmaresMae pawb wedi clywed am y castell ond mae gan Fiwmares drysorau eraill i'r rhai sydd â diddordeb i fynd i chwilio amdanynt. Un o'r rheiny yw'r hen lys sy'n sefyll dros y ffordd i'r castell. Codwyd y lle yn 1614 a'i ddefnyddio am bron i bedwar can mlynedd i brofi achosion drwgweithredwyr yr ynys. Mae pob twll a chornel o'r adeilad yn llawn gwrthrychau a gwybodaeth. Am y tro cyntaf bron mewn amgueddfa fe welais gyfeiriad at yr iaith Gymraeg fel ffactor gymdeithasol. Fel arfer mewn agueddfeydd bydd y Gymraeg yn cael ei anghofio neu'i hanwybyddu - ar fwriad neu drwy amryfusedd. Felly roedd hi'n ddiddorol gweld cyfeiriad at y ffaith nad oedd hawl go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg mewn llysoedd barn 1967. Faint o anghyfiawnder a welwyd oherwydd hynny, tybed? Efallai fod angen amgueddfa yn dweud hanes yr iaith a'r holl anghyfiawnderau y dioddefodd y rhai oedd yn ei siarad ar hyd y canrifoedd - nawr fe fyddai hynny'n brosiect diddorol i Amgueddfa Genedlaethol Cymru!

Actores yn y doc yn yr hen lys barn, BiwmaresYn ystod ein hymweliad â'r llys cawsom gyfle i weld actorion yn dod â rhai o'r achosion a welwyd yno yn fyw. Roedd y cyfan yn Saesneg, ond fe rown hynny o'r neilltu am y tro er mwyn dweud fod y perfformiadau a'r hyn a ddywedwyd yn arbennig o dda. Yn gyntaf achos o wrachyddaieth, yna crwt ifanc oedd i'w anfon i Awstralia, ac yna cyfle i fod y rheithgor mewn achos o ladrata yn erbyn rhywun o'r enw Bridget Riley - di-euog oedd dyfarniad y rheithgor cyfoes, wrth gwrs, ond ar y pryd fe'i caed yn euog a'i dedfrydydu i gyfnod o lafur caled. Roedd yn ymgais dda iawn i ddod â'r lle yn fyw ar gyfer ymwelwyr ac er mwyn cynorthwyo pobl i ddeall beth oedd yn digwydd yno yn well.

Rhagor o luniau o'r hen lys barn, Biwmares.